Cwestiynau Cyffredin Ysgol Gynradd Carwe
Diweddarwyd y dudalen ar: 22/08/2025
Rydym wedi datblygu'r wybodaeth hon i ddarparu canllawiau pellach ar y gofyniad i beidio ag ailagor Ysgol Gynradd Carwe ar ddechrau'r tymor ym mis Medi er mwyn sicrhau diogelwch disgyblion a staff.
Bydd y rhestr hon yn cael ei diweddaru'n rheolaidd i ddarparu gymaint o wybodaeth â phosibl.
Bydd yr holl ddisgyblion yn cael addysg yn Ysgol Gwynfryn.
Rydym yn deall bod amseriad y penderfyniad hwn yn rhwystredig i bawb. Cafodd yr ymchwiliadau pellach angenrheidiol eu cynnal tra oedd adeiladau'r ysgol yn wag yn ystod gwyliau'r haf ac mae'r Cyngor wedi derbyn cyngor strwythurol nad oedd modd cael y sicrwydd angenrheidiol fod Adeilad Tri yn ystâd yr ysgol yn ddiogel yn strwythurol.
Mae trefniadau wedi'u gwneud i'r holl ddisgyblion gael eu codi a'u gollwng yn Neuadd Bentref Carwe. Mae'r amserau wedi'u hanfon at bob rhiant.
Ar hyn o bryd, nid ydym yn gallu darparu amserlen ar gyfer y newidiadau hyn tra bod asesiad pellach o adeilad yr ysgol yn mynd rhagddo i ddod o hyd i ffordd addas ymlaen.
Bydd yr holl staff addysgu a staff cymorth a gyflogir gan yr ysgol yn cael eu hadleoli o fewn y ffederasiwn. Bydd trafodaethau pellach gyda staff yn cael eu cynnal cyn i'r disgyblion ddychwelyd i'r ysgol.
Gall disgyblion wisgo gwisg Ysgol Gynradd Carwe wrth fynychu Ysgol Gwynfryn.
Bydd, bydd yr holl wybodaeth hanfodol yn cael ei throsglwyddo i Ysgol Gwynfryn.
Byddant, bydd eich plentyn yn parhau i gael prydau ysgol am ddim.
Oes, bydd clwb brecwast i ddisgyblion Carwe yn Neuadd Bentref Carwe.
Gall disgyblion Carwe fynychu'r clwb ar ôl ysgol yn Ysgol Gwynfryn.
Mae croeso i unrhyw riant/gwarcheidwad sy'n dymuno i'w plentyn fynychu unrhyw ysgol arall yn lle hynny wneud cais gan ddefnyddio'r broses arferol ar gyfer derbyn disgyblion i ysgolion.
Bydd y Cylch Meithrin yn cael ei gynnal yn Neuadd Bentref Carwe.